Neyland 5 Narberth 55
THE young Otters ended the year on a high as they continued their winning run with a comfortable victory over Neyland.
They set out their stall early on with Kaleb making the initial break which set up good second phase ball. Lewis threw it wide and Dafydd was in the line to take the scoring pass. Neither side took conversions for this game.
Although Neyland were short on numbers and had to borrow a few of Narberth’s players, they had some good strong running forwards. They leveled the scores soon after with on-loan Jordan also being prominent in the move.
It was some time before Narberth built their next scores and it was that man Griff on both occasions who added the points.
In the second half the Otters clocked up the tries regularly. And once again their success was built on good teamwork with the forwards contributing the hard important graft.
They opened the half in style with a fluid backs move involving Rhys and Jordan, now back on Narberth’s side, and Dafydd finished it off.
A great break by Harri found Ifan in support for another score and Griff got his hat-trick after a period of good team pressure. Another great passing move gave Griff his fourth.
Harri took a nasty knock to the head but bounced back with a determined break. When the tackle came Jordan was on hand to whip the ball away and score.
Next it was Rhys’s turn to take advantage of another jinking run by Harri – and again it was Rhys’s straight running which brought his second soon afterwards.
It was a purple patch for him as he completed a hat-trick with a well-worked team try.
Player of the match: Rhys for a fine comeback performance (for both sides!) after a spell out.
Neyland 5 Arberth 55
DAETH diweddglo boddhaol iawn i flwyddyn y Dyfrgwn ifanc wrth iddyn nhw barhau i ennill gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Neyland.
Gwnaethon nhw eu bwriad yn glir o’r dechrau gyda Kaleb yn bylchu’n gynnar i osod llwyfan i feddiant da. Taflodd Lewis y bêl yn llydan ac roedd Dafydd yn y llinell i sgorio.
Doedd dim trosiadau i’r gêm hon.
Er bod Neyland yn brin o chwaraewyr ac roedd rhaid iddyn nhw fenthyg ambell un gan Arberth, roedd ganddyn nhw flaenwyr cryf a allai redeg yn dda. Daethon nhw â’r sgôr yn gyfartal yn fuan gyda Jordan, oedd ar fenthyg, yn amlwg yn y symudiad.
Aeth peth amser heibio cyn i Arberth adeilada eu ceisiau nesaf a Griff oedd y dyn amdani ar y ddau achlysur.
Yn yr ail hanner ychwanegodd y Dyfrgwn geisiau yn rheolaidd. Ac unwaith eto sail eu llwyddiant oedd gwaith tîm da gyda’r blaenwyr yn cyfrannu’r gwaith caled holl bwysig.
Agoron nhw’r hanner gyda symudiad llyfn gan yr olwyr yn cynnwys Rhys a Jordan, yn ôl erbyn hyn ar ochr Arberth, a Dafydd goronodd y cwbl gyda chais.
Bylchiad gwych gan Harri arweiniodd at gais i Ifan oedd yn cefnogi’n dda a chyflawnodd Griff ei drithro wedi cyfnod o bwysau da gan yr holl dîm.
Derbyniodd Griff ei bedwerydd gais wedi symudiad pasio da.
Cafodd Harri glatchen i’w ben ond sbonciodd yn ôl gyda bylchiad penderfynol. Pan ddaeth y tacl roedd Jordan wrth law i chwipio’r bêl i ffwrdd a sgorio.
Tro Rhys ddaeth nesaf pan fanteisiodd ar rediad twyllodrus gan Harri – ac eto rhedeg yn syth gan Rhys ddaeth â’i ail gais yn fuan wedi hynny.
Hwn oedd cyfnod gwych iddo a chwblhaodd ei drithro gyda chais yn dilyn gwaith tîm da.
Chwaraewr y gêm: Rhys am berfformiad arbennig (i’r ddwy ochr!) wrth iddo ddychweled wedi cyfnod allan.