20/11/11
Carmarthen Quins 7 – Narberth 38
Don’t be fooled by the score line – this was no walk in the park. The young Otters had to fight hard for this victory against a gutsy Quins side – and they did it in a way which will have made their coaches proud.
When it came to picking a player of the match there was no shortage of candidates. This was a real 12-man team performance featuring hard tackling, aggressive ball-winning and good handling moves, and they all deserve a mention.
Jack, Talfan, Ifan and Griff were among the players sticking their heads above the parapet in the early stages and putting in some good runs. From a resulting penalty Dafydd made the break and gave the scoring pass to Griff.
Jordan and Jack were prominent as Narberth kept up the pressure and this time Jack’s persistence paid off with a score which Ifan converted.
The Quins dug in for the rest of the half and it was here that the Narberth team character really showed as they worked together, making the hard yards and putting in the hard tackles.
George, Harri, Yoshan, Bruce, Tomas Webb and Thomas Twose all added their names to the roll of honour.
In the second half the Quins had the slope advantage and their number 9 opened their account early on with a break which left Narberth looking a little stunned.
But the determined Otters pushed their way upfield. Tomas Webb led the way with an electric break to set up a good attack and found himself on the end of the scoring pass as his reward. Harri converted.
It was something of a turning point, and the ever-hungry Griff pounced on Quins’ possession with an interception which led to a fine solo try which Ifan converted.
It was Jordan’s turn next after more good team work – a well-deserved try after his total commitment and constant harassing around the breakdown. Tomas converted this time.
Some quick-thinking by Dafydd from a penalty left the Quins’ defence in disarray and Griff was on his shoulder to take it all the way. He also converted.
Player of the match: Tomas Webb, for his hard tackling and his best game to date which was crowned by his try.
Cwins Caerfyrddin 7 Arberth 38
Dyw’r sgôr ddim yn dweud y gwir stori – doedd pethau ddim mor hawdd o bell ffordd.
Roedd rhaid i’r Dyfrgwn ifanc frwydro’n galed am eu buddugoliaeth yn erbyn tîm dewr y Cwins. A bydd eu hyfforddwyr yn falch iawn o’u perfformiad.
Doedd dim prinder posibiliadau wrth enwi chwaraewr y gêm. Perfformiad tîm o 12 dyn oedd hwn, yn dangos taclo cadarn, ennill meddiant ffyrnig a symudiadau llyfn wrth drafod y bêl – ac mae pob un yn haeddu clod.
Roedd Jack, Talfan, Ifan a Griff ymysg y rhai yn dangos eu sgiliau yn gynnar gan wneud rhediadau da. Bylchodd Dafydd wedi cic cosb gan roi’r pas terfynol i Griff i sgorio.
Roedd Jack a Jordan yn amlwg wrth i Arberth godi’r pwysau a’r tro hyn ymrwymiad Jack a dalodd ffordd gyda chais wedi’i drosi gan Ifan.
Ond safai’r Cwins yn gadarn am weddill yr hanner a dyma’r cyfnod pan welwyd cymeriad tîm Arberth wrth iddynt weithio gyda’i gilydd, brwydro am dir a thaclo’n gryf.
Ychwanegodd George, Harri, Yoshan, Bruce, Tomas Webb a Thomas Twose eu henwau at y rhestr anrhydedd.
Yn yr ail hanner roedd mantais y llethr gyda’r Cwins a’u rhif 9 agorodd y sgorio gyda bylchiad a syfrdanodd Arberth braidd.
Ond diolch i benderfyniad y Dyfrgwn, ail-enillon nhw dir. Tomas Webb oedd ar y blaen gyda bylchiad trydanol a sefydlodd ymosodiad da – ac fel gwobr, fe oedd yn derbyn y pas terfynol i sgorio. Trosodd Harri.
Roedd hwn yn rhyw fath o drobwynt a Griff, bob tro yn awchu am y bêl, a ryngipiodd feddiant gan y Cwins a arweiniodd at gais unigol da wedi’i drosi gan Ifan.
Tro Jordan ddaeth nesaf wedi rhagor o waith tîm da – a chais haeddiannol am ei ymrwymiad llwyr a brwydro cyson am feddiant ar y llawr. Trosodd Tomas.
Meddwl chwim gan Dafydd wedi cic cosb adawodd amddiffyn y Cwins yn rhacs ac roedd Griff wrth ei ysgwydd i goroni’r symudiad. Fe a drosodd hefyd.
Chwaraewr y gêm: Tomas Webb, am ei daclo cadarn a’i gêm gorau hyd yn hyn a’r wobr o’i gais ar ben.