Cardigan 28 Narberth 57
What a turnaround from the last encounter between these two teams!
Cardigan had just finished a hard battle with hosts Crymych but Narberth showed them no mercy. Ifan punished them almost from the kick-off with a fine individual try and Kaleb followed up with the second soon afterwards after a good build-up. Both went unconverted.
Cardigan recovered and enjoyed a good passage of play and Jack and Yoshan were among those putting in some hard tackles. Finally a burst by Griff put Narberth back in the driving seat and Ifan converted his try.
More good pressure led to a series of penalties and Thomas Toose finished off in the corner. Harri converted.
All-important possession and a classic backs move put Bruce over in the corner and Harri added the conversion.
Cardigan worked hard and scored two well-deserved tries before half-time, both of which were converted.
Narberth started the second half on fire with Dafydd and Griff joining the back line in a move which brought Griff his second. Harri converted.
Another period of sustained pressure in which Jordan, Cai and Harri were all prominent led to another try for Ifan which Harri again converted.
But Cardigan were in no mood to give up and their unstoppable no 12 added another converted score.
Narberth replied with a great run by Thomas Toose who fed Ifan who gave the scoring pass to Cai. Dafydd converted.
Once again Cardigan’s no 12 carved up the Narberth defence for a converted try before Jack finished off a great team performance with another score.
Player of the match: George – for his constantly improving performance and his best outing to date.
Aberteifi 28 Arberth 57
Am wahaniaeth i’r tro diwethaf i’r ddau dîm yma cyfarfod ei gilydd! Roedd Aberteifi newydd orffen brwydr galed yn erbyn y tîm cartref Crymych, ond roedd mantais y llethr gydag Arberth ac nid oeddent am ddangos trugaredd i’w gwrthwynebwyr.
Ifan a wnaeth iddynt dalu’r gosb ychydig funudau wedi’r dechrau gyda chais unigol ac ychwanegodd Kaleb un arall yn dilyn gwaith tîm da. Aeth y ddau heb eu trosi.
Cafodd Aberteifi gyfnod da ac roedd Jack a Yoshan ymysg y rhai oedd yn taclo’n gadarn. O’r diwedd ffrwydrodd Griff trwy’r amddiffyn a throsodd Ifan ei gais.
Arweiniodd rhagor o bwysau da at gyfres o giciau cosb gan adael i Thomas Toose goroni’r cyfan yn y gornel. Trosodd Harri.
Y meddiant hollbwysig a symudiad clasurol gan yr olwyr a rhoddodd Bruce drosodd yn y gornel ac ychwanegodd Harri’r trosiad.
Roedd Aberteifi yn ymdrechu’n galed gan lawn haeddu eu dau gais cyn hanner amser, y ddau wedi’u trosi.
Dechreuodd Arberth yr ail hanner ar dân gyda Dafydd a Griff yn ymuno â’r olwyr mewn symudiad a roddodd Griff ei ail gais a’r trosiad gan Harri.
Arweiniodd cyfnod o bwysau cyson – gyda Jordan, Cai a Harri yn amlwg, at gais arall i Ifan. Trosodd Harri.
Doedd dim arwydd fod Aberteifi yn fodlon rhoi’r gorau iddi ac ychwanegodd eu rhif 12 llithrig gais arall wedi’i drosi.
Rhediad gwych gan Thomas Toose a fwydodd Ifan a’r pas olaf yn mynd at Cai i sgorio. Trosodd Dafydd.
Unwaith eto dysgodd rhif 12 Aberteifi wers i amddiffyn Arberth gan sgorio cais wedi’i drosi cyn i Jack ychwanegu’r sgôr olaf i Arberth a choroni perfformiad tîm ardderchog.
Chwaraewr y gêm: George – am wella’i berfformiad yn gyson a’i gêm gorau hyd yn hyn.
Crymych 42 Narberth 21
The glory of a win against old rivals Crymych was a real possibility for so long in this hard-fought tussle.
Despite playing straight off the back of their fierce encounter with Cardigan, Narberth went ahead in the first half and held their own when playing uphill at the start of the second. But losing captain Dafydd with a knee injury was undoubtedly a big blow to their hopes and in the end Crymych were not in the mood for losing.
Narberth’s opening minutes were sprinkled with errors and Crymych made them pay with a converted try. But the young Otters came back in style and from a burst by Griff, Jack fought his way to the try line. Ifan converted.
A similar move put Dafydd on the scoresheet and again Ifan added the conversion to put Narberth back in front.
Crymych looked rattled as Dafydd and Jordan led the way with some big hits on their runners. It was no place for the faint-hearted but in the end Crymych’s better ball-winning on the floor enabled them to draw level.
An electric burst by Rhys finished off the action and promised plenty of fireworks for the second half.
The fierce battle upfront continued in the second half but it was Crymych who added the points before cutting loose again for another converted try.
Despite losing Dafydd, Narberth replied in the best possible way with a great solo try from Griff which Ifan converted.
With the score at 28-21 there was still hope. In the event Crymych ran in two more to seal their victory but Narberth left the field with heads held high after a gutsy display which promised even better things to come.
Player of the match: Ifan – for an all-round display of hard tackling and great breaks.
Crymych 42 Arberth 21
Roedd buddugoliaeth yn erbyn eu hen gyfeillion Crymych o fewn gafael Arberth am gyfnod hir yn y frwydr galed hon.
Er iddynt chwarae’n syth ar ôl gêm ffyrnig yn erbyn Aberteifi, aeth Arberth ar y blaen yn yr hanner cyntaf a daliodd eu tir yn yr ail wrth chwarae yn erbyn y llethr.
Ond heb os, roedd colli eu capten Dafydd yn ergyd drwm i’w gobeithion ac yn y diwedd doedd Crymych ddim yn yr hwyl am golli.
Roedd munudau agoriadol Arberth yn frith â chamgymeriadau a gwnaeth Crymych eu cosbi gyda chais wedi’i drosi. Ond daeth y Dyfrgwn ifanc yn ôl mewn steil ac wedi bylchiad gan Griff, brwydrodd Jack dros y llinell. Trosodd Ifan
Symudiad tebyg a roddodd Dafydd ar y daflen sgorio ac unwaith eto ychwanegodd Ifan y trosiad i roi Arberth ar y blaen eto.
Am unwaith roedd golwg sigledig ar Crymych wrth i Dafydd a Jordan arwain y ffordd gyda thaclo cadarn ar eu rhedwyr
Nid lle i’r rhai gwan eu calon mo hwn – ond yn y diwedd roedd llwyddiant Crymych i ennill y bêl ar y llawr yn eu galluogi i ddod yn gyfartal.
Bylchiad trydanol gan Rhys a orffennodd yr hanner gydag addewid o ddigon o dân gwyllt i ddod.
Parhaodd y frywdr ffyrnig ymysg y blaenwyr yn yr ail hanner ond Crymych a ychwanegodd y pwyntiau cyn torri’n rhydd eto am gais wedi’i drosi.
Er iddynt golli Dafydd, atebodd Arberth yn y ffordd orau bosib gyda chais unigol gwych gan Griff wedi’i drosi gan Ifan.
Gyda’r sgôr ar 28-21 roedd gobaith o hyd. Sgoriodd Crymych dau gais arall i selio’r fuddugoliaeth, ond gadawodd Arberth y cae gyda’u pennau’n uchel wedi perfformiad dewr a’r addewid o bethau gwell byth i ddod.
Chwaraewr y gêm: Ifan – am berfformiad amryddawn o daclo cadarn a bylchu’n wych.